Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Conference Room 4B - Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 26 Mehefin 2014 |
|
|||
Amser: |
12.30 - 14.00 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: AC(4)2014(9) |
|||||
|
|
|
|||
Yn bresennol: |
|
Y Fonesig Rosemary Butler AC (Cadeirydd) Peter Black AC Sandy Mewies AC Rhodri Glyn Thomas AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Claire Clancy, Y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad (Swyddog) Dave Tosh, Cyfarwyddwr Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (Swyddog) Craig Stephenson, Prif Gynghorydd y Llywydd (Swyddog) Mike Snook, Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Swyddog) Nerys Evans, Commission Member (Swyddog) Neil Bradley, Assembly Sustainability Co-ordinator (Swyddog) Carys Evans, Prif Ysgrifennydd y Comisiwn (Swyddog)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
Mair Barnes, Cynghorwr Annibynnol Steven Burrows, Arup Alan Jones, Arup Lee Evans, Yr Ymddiriedolaeth Garbon
|
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad y Cadeirydd
1.1 Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Roedd Angela Burns AC a David Melding AC wedi anfon eu hymddiheuriadau.
1.2 Datganiadau o fuddiant
Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
1.3 Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod 18 Mehefin.
2 Adborth ar yr Ymgynghoriad ar TGCh yn y Siambr
Mae’r cyfleusterau TGCh sydd ar gael i’r Aelodau yn y Siambr wedi bod ar waith ers agor y Senedd. Byddai angen diweddaru llawer o’r cyfleusterau yn y Siambr dros y ddwy flynedd nesaf. Roedd strategaeth TGCh y Comisiwn yn cynnig ystod o gyfleoedd newydd i ddarparu amgylchedd gweithio gwell i’r Aelodau, gan sicrhau ar yr un pryd y gellir cyflwyno arferion arloesol.
Roedd yr Aelodau wedi cael cais yn ddiweddar i roi adborth ar yr opsiynau canlynol:
· Cadw’r offer TGCh Sefydlog
· Offer TGCh symudol a Gweithfan Hyblyg
· Sgrin Gyffwrdd ar gyfer y Cyfarfod Llawn yn Unig
Nododd yr arolwg y byddai’n well gan y rhan fwyaf o’r ymatebwyr weld datrysiad symudol yn cael ei gyflwyno. Fodd bynnag, roedd yna hefyd ddiddordeb sylweddol mewn cadw rhyw fath o ddesg sefydlog. Roedd rhai wedi nodi y dylid cael hyblygrwydd gan nad yw pob defnyddiwr yn dymuno mabwysiadu’r un ffyrdd o weithio. Byddai angen rhoi ystyriaeth i wneud y defnydd gorau o’r gofod desg sydd ar gael i’r Aelodau yn y Siambr hefyd.
Yn seiliedig ar y safbwyntiau hyn byddai’r adran TGCh yn ymchwilio i’r opsiynau sydd ar gael cyn dod â’r cynigion yn ôl i’r Comisiwn ar ôl toriad yr haf. .
Fel y cytunwyd eisoes, byddai’r newidiadau’n cael eu gwneud yn raddol ac yn gyflym fel y gellid gwireddu’r manteision yn sydyn.
3 Map llwybrau lleihau carbon - cyflwyniad
Ers 2008-09 mae Comisiwn y Cynulliad wedi llwyddo i gael gostyngiad o 34% mewn allyriadau ynni yn erbyn y targed heriol o ostyngiad o 40% erbyn 2015. . Mae hyn yn dangos perfformiad ardderchog o’i gymharu â gweddill y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Er mwyn cynnal y momentwm hwn a nodi meysydd lle dylid canolbwyntio ar weithgarwch yn y blynyddoedd sydd i ddod, darparwyd cymorth technegol ac arbenigol gan Arup a’r Ymddiriedolaeth Garbon. Cafodd llwybr lleihau carbon newydd ei ddatblygu a fyddai, os caiff ei weithredu, yn galluogi’r Comisiwn i gyflawni gostyngiad pellach o 30% (ar linell sylfaen 2012-13) mewn allyriadau erbyn 2021. Roedd y llwybr arfaethedig yn cynnwys:
- Camau gweithredu a fyddai’n galluogi’r Comisiwn i barhau â’i raglen lwyddiannus o leihau allyriadau ynni;
- Sail ar gyfer datblygu Strategaeth Rheoli Carbon newydd a fyddai ar waith o 2015 ac a fyddai’n cynnwys ystod o dargedau eraill gan gynnwys gwastraff, dŵr a theithio;
- Dadansoddiad manwl o’r defnydd o ynni ac allyriadau a oedd yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer datblygu cynllun heriol ond cyraeddadwy i yrru allyriadau ynni i lawr ymhellach tra’i fod yn sicrhau amgylchedd gwaith cyfforddus i bawb;
- Cymhennu da a phrosiectau Buddsoddi i Arbed sy’n canolbwyntio ar effeithlonrwydd a gwell technoleg. Byddai llawer ohonynt yn rhoi ad-daliad ar unwaith, gydag uchafswm o ad-daliad 8.5 mlynedd i eraill;
- Dadansoddiad manwl o’r arbedion ariannol i’w hennill o ganlyniad i’r ymyriadau effeithlonrwydd ynni.
Er bod y defnydd o dechnolegau adnewyddadwy wedi cael eu hymchwilio, roedd yr ad-daliad amcangyfrifedig o fwy na deng mlynedd yn golygu nad oedd hyn yn opsiwn ymarferol ar hyn o bryd. Argymhellwyd y dylid gwneud dadansoddiad pellach yn y maes hwn ar yr adeg briodol.
Cymeradwyodd y Comisiynwyr y Llwybr, a fyddai’n cael ei roi ar waith o fewn y cyllidebau cynaliadwyedd a phrosiect sydd eisoes yn bodoli. Roedd llawer o’r camau gweithredu a nodwyd yn gysylltiedig â’r angen i brynu offer newydd yn lle’r offer sydd wedi cyrraedd diwedd ei oes weithredol, gan roi cyfle i gael offer newydd sy’n fwy effeithlon a chynaliadwy.
4 Unrhyw Fusnes Arall
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 7 Gorffennaf. Bydd y Comisiwn yn ystyried Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad a Strategaeth y Gyllideb ar gyfer 2015-16. .
Yr Ysgrifenyddiaeth
Mehefin 2014